Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 13 Ionawr 2021.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd; diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl yma. Dwi wedi codi droeon yn y Siambr rithiol, ac mewn cyfathrebiaeth efo'r Llywodraeth dros y misoedd diwethaf, yr angen i wneud popeth posib drwy ddyddiau anodd y pandemig i sicrhau bod pobl yn cael cefnogaeth ac anogaeth i ymarfer corff, i gael awyr iach, a hynny nid yn unig oherwydd yr elfen o les corfforol mae'n ei wneud, ond hefyd oherwydd y budd o ran llesiant meddwl ac iechyd meddwl.
Dwi'n ffodus iawn fy mod i'n gallu ymarfer corff yn rheolaidd o gartref, a chael cwmni i wneud hynny hefyd. Ers dechrau y lockdown cyntaf, rhyw bum diwrnod yr wythnos, tua 7 y bore fel arfer, mae fy ngwraig a minnau yn mynd i redeg. Mae'n amrywio o ryw 2 filltir, 2 filltir a hanner i ryw 6 milltir, ac mae'r ddau ohonom ni'n grediniol bod y ffaith ein bod ni wedi gallu gwneud hynny, a gwneud hynny'n rheolaidd, o ran y llesiant corfforol—y ffaith ein bod ni'n dechrau'r dydd mewn ffordd bositif ac ati, dros ffordd dywyll, oer a gwlyb y dyddiau yma—wedi ein helpu ni drwy'r cyfnod yma. Ond dydy pawb ddim yn gallu gwneud hynny. Mae yna bob mathau o resymau pam mae pobl angen rhywbeth arall, rhywbeth mwy strwythuredig, o ran help i gynnal eu ffitrwydd—rhesymau o ran hygyrchedd, fel dywedodd Jenny Rathbone. O bosib, mae gan bobl resymau penodol pam nad ydyn nhw'n gallu mynd i'r awyr agored—unigrwydd ac yn y blaen. Ac mae colli campfeydd wedi dod fel ergyd fawr i lawer o bobl. Mae Michelle Adams—y deisebydd sydd y tu ôl i'r ddeiseb ar gadw campfeydd ar agor—yn etholwraig i mi, ac mae'n aelod o CrossFit Place yng Nghaerwen. Ac yn ogystal â'r perchennog, Phil Brown, dwi wedi clywed gan nifer o aelodau o'r gampfa honno am eu tor calon nhw—dydy hynny ddim yn rhy gryf i'w ddweud—pan fo'r gampfa wedi gorfod cau ar wahanol adegau dros y flwyddyn ddiwethaf, o ran y gwmnïaeth a'r iechyd corfforol a meddyliol.
Beth ofynnais i i'r Llywodraeth mewn llythyr i'r Gweinidog iechyd yn ôl ym mis Hydref oedd: gadewch i gyms wneud yr achos i allu agor yn ddiogel; gadewch iddyn nhw ddangos eu bod nhw yn gallu. Dwi'n adnabod yn CrossFit Place, er enghraifft, mae yna ddrws roller shutter anferth o'r llawr i'r to er mwyn sicrhau digon o awyr iach. Mae'n bosib bod yna rai gyms sydd yn methu â rhoi trefniadau diogel mewn lle, ond gadewch iddyn nhw drio. Yr agwedd pan fo'n dod at ymarfer corff, dwi'n credu, ydy y dylid ei ganiatáu os ydy hynny yn bosib o gwbl. A bydd, mi fydd adegau pan fydd nifer yr achosion ar ei fwyaf uchel, fel rydym ni wedi'i brofi rŵan, neu mewn rhai ardaloedd lle mae hynny yn wir, lle o bosib does yna ddim modd i unrhyw gampfa fod ar agor, ond sôn am asesiadau risg, deinamig rydym ni yn fan hyn er mwyn hybu y math yna o ymarfer corff, a dwi'n gofyn eto i'r Llywodraeth feddwl yn y ffordd yna.
Yr un fath efo'r deisebau eraill: prin allwch chi ddychmygu camp fwy diogel na golff. Mae yn yr awyr agored, mae pobl yn gallu cadw ymhell iawn oddi wrth ei gilydd. A chofiwch nid sôn am agor y clubhouse ydyn ni—er, ar hyn o bryd, mi allwch chi fynd draw i'r clubhouse i ôl têc-awe, ond allwch chi ddim mynd draw yno i gael gêm o golff yn yr awyr agored.
A dwi wedi mynd ar ôl y mater o geisio caniatáu chwaraeon tîm i gael eu chwarae a'u gwylio dros y misoedd diwethaf hefyd. Mae gen i gariad mawr at bêl-droed, sy'n ffocws ar y ddeiseb yma—rygbi hefyd. Dwi wedi hyfforddi ieuenctid llawer iawn dros y blynyddoedd, ac mae annog chwaraeon tîm mor bwysig, eto i iechyd meddwl a chorfforol, ond yn gymunedol hefyd. Mae rhwyfwyr môr cystadleuol wedi bod yn rhwystredig yn Ynys Môn, er enghraifft, eu bod nhw wedi methu â chael mynd allan am gyfnodau dros y misoedd diwethaf. Felly, mae fy apêl i yr un fath: plîs a wnaiff y Llywodraeth feddwl am eu hunain fel hwyluswyr yn fan hyn, fel enablers, a meddwl mai beth sydd eisiau ei wneud ydy caniatáu ac annog gweithgaredd corfforol lle bynnag y mae hynny yn bosib? Rwy'n cefnogi'r cyfyngiadau Cymru gyfan sydd gennym ni ar hyn o bryd—mae pethau'n edrych yn well, yn symud i'r cyfeiriad cywir rydw i'n gobeithio, ond mae'r sefyllfa'n dal yn ddifrifol—ond tra mae yna bethau sydd ddim yn gallu cael eu hystyried yn angenrheidiol ar hyn o bryd, mae annog ffitrwydd corfforol a meddyliol yn gorfod bod yn flaenoriaeth, felly gwnewch bopeth allwch chi.