Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 13 Ionawr 2021.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Janet Finch-Saunders, am ddilyn y broses ddeisebau a chyflwyno'r ddadl yma heddiw. Fy nheimlad i ydy, er bod y ddadl yma yn dod trwy broses gan y Senedd, efallai ei bod hi'n ddadl sydd wedi digwydd yn rhy gynnar. Ond wedi dweud hynny, mae o'n gyfle i mi ymateb ar ran y Llywodraeth mewn ffordd hollol glir, gobeithio.
Fel y gwyddoch chi, iechyd cyhoeddus yw'r brif ystyriaeth yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. Yn wir, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu yn sylweddol ers pan gyflwynwyd y deisebau yma yn wreiddiol. Mae gen i gyfrifoldeb, wrth gwrs, am gael trosolwg ar weithgaredd corfforol fel Gweinidog chwaraeon o fewn y Llywodraeth, ond mae'n rhaid i mi weithredu'r cyfrifoldeb yna o fewn cyd-destun iechyd cyhoeddus, ac mae lefel y rhybudd yr ydym ynddi hi ers 20 Rhagfyr, lefel 4, yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa.
Mae'r cyfan o'r polisi a'r gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi eu dilyn, sydd ddim mor annhebyg â hynny i beth sydd wedi digwydd yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban, er bod yna eithriad yna ynglŷn â golff yn yr Alban—mae'r polisïau a'r gweithredu yn gyffredinol yn debyg. Maen nhw'n debyg oherwydd eu bod nhw wedi cael eu darparu yn y gwledydd yna i gyd ar sail cyngor iechyd cyhoeddus sydd wedi'i gytuno yn gyson rhwng y prif swyddogion meddygol. Os digwyddodd rhai ohonoch chi weld, fel y gwelais i, amser cinio heddiw, y ddau brif swyddog meddygol sydd yn rhan o Lywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, mi fyddech chi wedi cael y dystiolaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r sefyllfa yna.
Tra bydd y cyngor yn dweud wrthym ni am aros gartref ac am gymryd gofal, ac am beidio â chaniatáu gweithgareddau corfforol y tu fewn i adeiladau megis campfeydd, yna mae cydbwysedd y farn gyhoeddus a'r cyngor arbenigol yr ydym ni wedi'u cael yn pwysleisio'r pwysigrwydd i ni helpu i ddiogelu pobl Cymru, rhoi cyngor clir a diamwys, ac wrth gwrs diogelu gweithgareddau ein gwasanaeth iechyd. Mae hynny yn golygu o hyd ein bod ni'n parhau i gadw cyfleusterau dan do ar gau. Er bod, fel y dywedais i gynt, y gweithgareddau awyr agored fel golff a phêl-droed yn ymddangos yn fwy diogel, y cyngor iechyd cyhoeddus ydy bod y risg sydd o fewn y gweithgareddau yma hefyd, o ran cefnogwyr ac o ran cyfranogwyr, yn fwy nag y gallwn ni ganiatáu.
Mae'r esblygiad ar y feirws wedi bod yn annisgwyl i rai pobl, ond doedd e ddim yn annisgwyl i unrhyw un sydd wedi bod yn astudio'r sefyllfa iechyd cyhoeddus a'r sefyllfa o ran argyfyngau pandemig a phla cyhoeddus, fel yr ydym ni'n ei ddioddef ar hyn o bryd. Dyna pam na allwn ni ganiatáu eithriadau na chonsesiynau ar hyn o bryd, er mwyn cadarnhau'r neges ynglŷn ag aros gartref. Mae'n rhaid i benderfyniadau Llywodraeth Cymru fod yn seiliedig ar realiti'r sefyllfa yng Nghymru a blaenoriaethau iechyd cyhoeddus.
Dydy hynny ddim yn golygu nad ydw i'n cytuno â'r cyfan sydd wedi cael ei ddweud ar bwysigrwydd ymarfer corfforol. Dwi'n ffodus, oherwydd fy mod i wedi arfer, oherwydd lle dwi'n byw yn y gogledd—bellach yn fan hyn y rhan fwyaf o'r amser, bron drwy'r amser, yng Nghaerdydd, oherwydd fy mod i ddim yn gallu teithio i unman oherwydd fy oedran—ond mae parhau i ymarfer tu allan mewn caeau, yn rhedeg ac yn y blaen, yn bethau sydd yn parhau nid yn unig yn bleser i fi ond yn angenrheidrwydd yn fy mywyd. Nid fy mod i ddim yn deall y dadleuon yna, ond mae'n rhaid i mi ddweud yn gwbl glir bod yn rhaid i ni ar hyn o bryd sicrhau ein bod ni yn cefnogi'r sector chwaraeon. Rydyn ni wedi neilltuo £23 miliwn i helpu'r sector chwaraeon a hamdden yn ystod y pandemig yma, ond nid dyma'r amser i ni agor y drws na mynd tu fas i'r drws, na mynd tu mewn i'r drws os nad ydy hynny yn ddiogel.
Dwi yn ddiolchgar iawn am y datblygiadau gwyddonol rydyn ni wedi eu cael ynglŷn â brechlynnau, ond mae'n bwysig ein bod ni ddim yn tanseilio unrhyw fantais o effeithiolrwydd brechlynnau o ran iechyd cyhoeddus drwy ganiatáu agor gweithgareddau sydd ddim yn mynd i fod yn ddiogel. Nid mater pleidiol wleidyddol ydy hwn, wrth gwrs; mae o'n rhy bwysig i hynny—mae o'n fater o fywyd.