Part of the debate – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 19 Ionawr 2021.
Diolch, Gweinidog. Mae cael y broses frechu yn iawn yn bwysig iawn, iawn. Dyma'r golau ym mhen draw'r twnnel, y gobaith y mae cymaint o bobl wedi bod yn glynu wrtho. Mae'n rhaid bod ffydd wirioneddol ymhlith y boblogaeth bod pethau ar y trywydd iawn. Dywedir wrth y bobl sy'n aros am y brechlyn ar gyfer eu hunain neu eu hanwyliaid, 'Peidiwch â'n ffonio ni, fe wnawn ni eich ffonio chi.' Os gofynnir i bobl fod yn amyneddgar, mae'n rhaid rhoi rheswm iddyn nhw fod â ffydd y daw eu tro nhw yn fuan. Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgwyd y ffydd honno yn ddifrifol. Yn gyntaf, ffigurau sy'n dangos ein bod ni ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Mae'r Prif Weinidog wedi ceisio wfftio hyn gan ddweud mai ffracsiynau bach yn unig ydyn nhw, ond er efallai nad yw 6.6 y cant o'r boblogaeth a frechwyd yn Lloegr yn swnio'n llawer mwy na 4.8 y cant wedi'u brechu yng Nghymru neu yn yr Alban, mae hynny'n wahaniaeth o 30 y cant yn nifer y bobl sy'n cael eu brechu, ac mae angen mynd i'r afael â hynny nawr.
Cawsom y ffigurau hynny ynglŷn â faint o frechlynnau a gafwyd yng Nghymru—cafwyd cannoedd o filoedd—a, bryd hynny, dim ond degau o filoedd a oedd wedi eu rhoi ym mreichiau pobl, lle yr ydym ni eisiau iddyn nhw fynd. Ac yna cawsom y datganiadau syfrdanol hwnnw gan y Prif Weinidog yn dweud y cai stociau eu gwasgaru dros yr wythnosau nesaf—datganiadau a ailadroddwyd—yn hytrach na'u dosbarthu cyn gynted â phosibl. Pe byddai nhw i gyd yn cael eu dosbarthu, dywedwyd wrthym ni, byddai brechwyr yn segur, yn gwneud dim byd. Galwodd Cymdeithas Feddygol Prydain hynny yn 'ddryslyd'. Dydw i ddim wedi gweld unrhyw reswm clinigol pam y byddai hynny'n gwneud synnwyr, a'r hyn sy'n gwneud synnwyr i mi ac, yn bwysicach, yr hyn sy'n gwneud synnwyr i'r cyhoedd yng Nghymru, rwy'n credu, yw dosbarthu cyn gynted â phosibl. Nawr, roedd datganiad gan Lywodraeth Cymru ddoe yn gwbl groes i'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, felly hefyd sylwadau'r Gweinidog nawr. Dywedwyd wrthym ni yn y datganiad hwnnw na fyddai'r brechlyn yn cael ei ddal yn ôl. Felly, pa un sy'n wir—y datganiad hwnnw, neu'r hyn a glywsom ni dro ar ôl tro gan y Prif Weinidog?
Mae angen i ni allu mesur yn union beth sy'n digwydd. Felly, unwaith eto, gofynnaf heddiw: rhowch ddiweddariadau rheolaidd i ni ar faint o bob math o frechlyn sydd wedi ei roi i bob gwlad yn y DU. Mae hynny'n hollbwysig. Mae'n rhaid i ni fod yn gwbl sicr ein bod yn cael ein cyfran o'r brechlyn AstraZeneca, sy'n haws ei ddefnyddio, er enghraifft. Mae angen i ni wybod faint o bob un sydd wedi ei roi i bob bwrdd iechyd, a faint o bob un sydd wedi ei roi ym mreichiau pobl.
Dechreuais drwy ddweud pa mor bwysig yw cael y broses frechu yn iawn, ac fe orffennaf os caf, drwy ddyfynnu sylw gan y bardd uchel ei pharch, Gwyneth Lewis, ar y cyfryngau cymdeithasol. Meddai hi, 'Wna i byth faddau i'r weinyddiaeth hon os bydd fy ngŵr sy'n agored i niwed, sydd wedi cael ei warchod ers mis Mawrth, yn dal COVID rhwng nawr a chael ei frechu fel nad yw staff yn segur, yn gwneud dim byd. Rydym ni wedi cadw at yr holl ganllawiau,' meddai, 'ac rydym ni yn ddig ac wedi'n drysu gan y dull hwn o frechu yng Nghymru.' Llywydd, mae llawer o bobl yn ddig ac yn ddryslyd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru eisiau i Lywodraeth Cymru gael hyn yn iawn. Gwyddom fod gennym ni frechlynnau a thimau brechu gwych eisoes yn gweithio, i gyd yn barod i ddechrau arni. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth nawr sicrhau bod y strategaeth yn gywir, bod yn gwbl dryloyw ynghylch yr hyn sy'n digwydd, gan gynnwys ynghylch ble mae unrhyw broblemau yn y system, ac, yn hollbwysig, mae'n rhaid iddi adeiladu'r ffydd sydd ei hangen arnom ni yn y rhaglen frechu hollbwysig hon.