Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 19 Ionawr 2021.
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r ffordd orau o sicrhau swyddi yn ystod y pandemig hwn yw sicrhau bod pob cyflogwr sy'n cael ei effeithio gan fesurau i leihau lledaeniad COVID-19 yn cael cymorth? Mae dau gwmni o'r fath sydd wedi cael eu heffeithio yn fy rhanbarth i wedi cysylltu â mi, ac mae'r ddau ohonyn nhw yn gweithredu arcedau difyrion a gwrthodwyd cymorth i'r ddau ohonyn nhw gan eu bod nhw'n cael eu hystyried yn fusnesau gamblo. Prif Weinidog, mae'r rhain yn fusnesau cyfreithiol, cymerir eu trethi ac maen nhw'n dioddef yr un fath ag unrhyw fusnes hamdden arall, felly oni ddylen nhw gael yr un cymorth â busnesau hamdden eraill? Diolch.