COVID-19 a Swyddi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 19 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:53, 19 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym ni'n manteisio ar bob cyfle i gyflwyno sylwadau o'r fath. Cafodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru gyfarfod gyda Gweinidog busnesau bach y DU ddydd Iau ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddoe. Mae cyfarfod pedairochrog rhwng Llywodraethau'r DU yn cael ei gynnal yfory, pryd y bydd sylwadau pellach yn cael eu cyflwyno.