Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 19 Ionawr 2021.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ym mis Tachwedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru chwe chyfarfod Cabinet, ac eto yn y cofnodion cyhoeddedig trafodwyd amrywiaeth o faterion, fel strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru, y Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau a hyd yn oed ehangu swyddogaeth diffoddwyr tân. Fodd bynnag, nid oes yr un eitem ar frechlynnau na brechiadau wedi'i gyflwyno na'i godi i'w thrafod. O ystyried pwysigrwydd datblygu strategaeth frechu yn barod ar gyfer defnyddio brechlynnau, pam na wnaeth Llywodraeth Cymru hyd yn oed drafod y mater yn ystod mis Tachwedd i gyd? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni pryd, fel Cabinet, y gwnaethoch chi drafod y defnydd o frechlynnau?