Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 19 Ionawr 2021.
Prif Weinidog, os mai cyflenwad yw'r ffactor sy'n cyfyngu ar y gyfradd—ac mae'r Gweinidog iechyd newydd ddweud bod hynny yn wir ar draws yr holl wledydd—yr hyn y mae'n ei esbonio wedyn yw'r gyfradd wahaniaethol o frechu yng Nghymru o'i chymharu, fel yr ydym ni wedi ei glywed, â'r DU yn ei chyfanrwydd, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn arbennig. Os yw'r un gyfradd gyflenwi yn bodoli ar draws y gwledydd hyn, pam ydym ni felly yn gweld cyfradd wahaniaethol, bwlch rhwng y gyfradd frechu yng Nghymru? Nid ydym ni wir wedi clywed, yn fy marn i, ateb cydlynol, eglur i'r cwestiwn hwnnw. Felly, a allwch chi ei roi i ni nawr?