Y Dreth Gyngor

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 19 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:41, 19 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna ac am y pwyntiau yna. Fodd bynnag, mae llawer o deuluoedd ac unigolion yn fy rhanbarth i wedi wynebu caledi ariannol gwirioneddol er nad ydyn nhw'n gymwys i gael cymorth gyda'r dreth gyngor yn y modd y mae ar gael. Canfu adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan fod incwm bron i chwarter aelwydydd wedi gostwng ers dechrau'r pandemig, ac ar yr un pryd mae eu costau byw wedi cynyddu. Canfu y bu'n rhaid i un o bob pum aelwyd gydag incwm o lai nag £20,000 y flwyddyn wneud toriadau o ran bwyd, gwres, trydan a dŵr. Rydym ni'n gwybod mai'r dreth gyngor yw'r dreth fwyaf atchweliadol sydd gennym ni, oherwydd ei bod yn rhoi'r baich mwyaf ar aelwydydd incwm isel ac rydym ni wedi cael cadarnhad bod cynghorau, gan gynnwys un yn fy rhanbarth i, yng Nghaerffili, yn bwriadu codi'r dreth gyngor gan 4 y cant. Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur yn Lloegr, Keir Starmer, ei bod hi'n hurt disgwyl i deuluoedd sydd o dan bwysau dalu mwy a galwodd ar Lywodraeth y DU i dalu am y cynnydd arfaethedig yn Lloegr. A fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny yng Nghymru?