Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 19 Ionawr 2021.
Llywydd, mae penderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio â chymryd rhan yn Erasmus+ yn golygu bod manteision rhaglen werthfawr iawn yn cael eu gwrthod i'n pobl ifanc. Am y tro cyntaf eleni, ni fydd sefydliadau yng Nghymru yn gallu gwneud ceisiadau newydd i Erasmus+ mwyach, mewn gweithred o fandaliaeth ddiwylliannol.