Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 19 Ionawr 2021.
Felly, sut ydych chi'n credu y byddwch chi'n gallu cyflwyno, os hoffech chi, yr achos dros gefnogaeth i Gymru ar gyfer uwchraddio ei seilwaith yng Nghymru a esgeuluswyd mor ofnadwy yn y cyd-destun na chawn ni'r un ddimai o'r biliynau sy'n cael eu tywallt ar HS2? Siawns nad oes angen i Gymru gael rhywfaint o arian y DU a fydd yn cael ei wario ar lunio trafnidiaeth y dyfodol?