Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 19 Ionawr 2021.
Diolch yn fawr iawn. Gallaf roi tawelwch meddwl i David Rowlands nad oes unrhyw amwysedd wrth ddefnyddio'r term 'derbyn mewn egwyddor'; y ffaith amdani yn syml yw mai gweledigaeth 10 mlynedd yw hon ac efallai y bydd angen ystwytho'r manylion i ryw raddau wrth i'r agweddau ymarferol gael eu harchwilio wrth fynd ymlaen, ac nid lleiaf gan fod yna brosesau statudol i fynd drwyddynt, y mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth ynddynt, ac mae'r cyfreithwyr yn gofyn imi fod yn ofalus yn yr hyn a ddywedaf. Ond fe allaf i eich sicrhau chi bod ein cefnogaeth ni'n gadarn ac yn sylweddol i'r weledigaeth a nodir, ac rydym wedi ymrwymo i weithio drwy'r manylion, i'w rhoi nhw ar waith ac ychwanegu cymaint ag y gallwn ni ati. Ac yn sicr, fel y dywedais i, mae 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru' wedi cymryd y weledigaeth hon a'i chwyddo hi ar gyfer Cymru gyfan, felly rydym ni'n sicr yn gobeithio—. A'r cwestiwn y mae ef yn ei godi am fforddiadwyedd defnyddio bysiau, mae hwnnw'n sicr yn gwestiwn allweddol ar gyfer cyflawni newid moddol, i berswadio pobl i adael eu ceir gartref a defnyddio mathau cynaliadwy o drafnidiaeth ar gyfer eu teithiau dyddiol, oherwydd, yn amlwg, fforddiadwyedd yw un o'r mesurau hynny. Felly, os na wnawn ni sicrhau bod system drafnidiaeth gyhoeddus yn ddeniadol—ac mae yna lawer ffordd o'i gwneud yn ddeniadol, a dyna un ohonyn nhw'n sicr—yna ni chaiff y weledigaeth hon ei chyflawni, mae hynny'n sicr.
O ran mesurau bysiau, rwy'n cytuno ag ef; rwyf eisoes wedi dweud fy mod i'n rhagweld y bydd un o'r mesurau cyntaf a gymerwn ni'n ymwneud â rhoi blaenoriaeth i fysiau. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith modelu, gan ystyried, er enghraifft, yr achosion pennaf pam mae teithwyr ar fysiau yn colli amser yn y boreau. Rwyf wedi cael cyflwyniad diddorol gan y rhai fu wrthi'n gweithio ar y modelu sy'n dangos yn gwbl eglur fod yna dair tagfa wahanol ar gyfer bysiau yng Nghasnewydd yn y boreau, lle mae teithwyr bysiau'n eistedd yn aros yno am eu bod yn cael eu dal mewn traffig, ac rwy'n credu y byddai edrych ar bob un o'r tair tagfa yn flaenoriaeth yn ogystal â gweld sut y gallwn ni greu rhai mesurau ar gyfer rhoi'r flaenoriaeth ar y ffordd i ganiatáu i fysiau symud yn rhydd, i annog pobl i neidio ar y bws yn lle neidio i gar.
Felly, mae hwnnw'n ddarn systematig o waith yr ydym ni'n dechrau ei gyflawni o fewn Trafnidiaeth Cymru, ac mae gwaith wedi dechrau ar hynny eisoes, ond fel y dywedais i, mae angen i'r Cyngor weithio gyda ni, gan fod yn barod i wneud penderfyniadau lleol i wneud y newidiadau hyn yn rhai sy'n bosibl yn ymarferol. Rwy'n sicr yn credu, fel bob amser, mai peth digon hawdd yw nodi'r weledigaeth ar gyfer y pethau hyn; ond y gamp yw ei darparu'n gyflym, ei hariannu, a mynd â phobl ar y daith gyda chi. Ac nid wyf yn bychanu'r her sydd o'n blaenau ni wrth fwrw ymlaen â hyn, yn enwedig o ystyried yr heriau yn yr ardal a amlinellais i eisoes, ond mae'n gwbl bosibl ac mae'r wobr yno i bawb ei gweld. O ystyried yr heriau yr ydym ni i gyd yn eu hwynebu wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd ac wrth adfywio'r economi leol yn wyneb y dirwasgiad hwn, yna mae hon yn flaenoriaeth sy'n hanfodol i bob un ohonom ei symud ymlaen.