Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 19 Ionawr 2021.
Diolch, Jenny. Rydych chi'n gywir—mae Meilyr wedi canolbwyntio'n ddi-baid ar blant drwy gydol ei yrfa, ac yn yr arolygiaeth, ac mae'n canolbwyntio'n fawr ar blant yn ei feirniadaeth ac yn ei ddadansoddiad o'r system addysg.
Credaf mai un agwedd gadarnhaol—a bobl bach, maen nhw'n brin iawn, ond mae angen inni chwilio amdanyn nhw yng nghanol y sefyllfa ofnadwy hon yr ydym ni ynddi—yw'r cyfathrebu gwell rhwng ysgolion a rhieni, y mae'r adroddiad yn cyfeirio ato. Mae wedi bod yn nodwedd angenrheidiol o ddysgu o bell ac addysg o bell, a gobeithio y bydd y newid hwnnw mewn diwylliant a'r disgwyliadau hynny am gyfathrebu rheolaidd yn newid diwylliant parhaol. Yn aml iawn, mae pob un ohonom ni eisiau dychwelyd i'n trefniadau arferol, ond mae'n rhaid i ni gydnabod weithiau nad oedd yr hen drefn arferol yn ddigon da, ac mae hon yn enghraifft lle gall normal newydd ysgogi gwelliannau go iawn, a bod cyfathrebu â rhieni yn gwbl allweddol. Ni all ysgol addysgu plant ar ei phen ei hun; rhaid i hynny fod yn bartneriaeth rhwng y gweithwyr proffesiynol yn yr ysgol a'r teulu, ac mae ein hysgolion gorau yn datblygu'r berthynas gref iawn honno, ac mae hynny'n dod â manteision gwirioneddol i blant.
Ac rwyf yn credu, Jenny, fod y drefn arolygu'n dda o ran sicrhau gwerth ychwanegol. Nawr, yn amlwg, mae'r arolygiaeth eu hunain yn mynd drwy raglen ddiwygio. Nid yw hi ond yn briodol, pan edrychwn ni ar ddiwygio ein rhan ni o'r system addysg, eu bod hwythau hefyd wedi edrych arnyn nhw eu hunain fel y gallan nhw ddiwygio eu prosesau a'u rhagolygon, fel y gallan nhw wneud eu rhan i wella addysg. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn yn Weinidog addysg yw noson flynyddol Estyn, lle mae'r rhai sydd wedi eu graddio'n 'rhagorol' mewn unrhyw gategori, boed hynny y sector meithrin neu ar ben arall y sbectrwm y colegau addysg bellach a phopeth yn y canol, lle caiff y rhagoriaeth honno ei chydnabod. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, gyda'r nosweithiau hynny, fy mod yn wir wedi ysgwyd llaw â phenaethiaid rhai o'n hysgolion yn ein maestrefi deiliog, ond rwyf hefyd wedi ysgwyd llaw â phenaethiaid ysgolion sy'n gwasanaethu rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, ac sy'n ymdrin â phlant sydd o dan lawer o bwysau, teuluoedd sy'n wynebu llawer iawn iawn o bwysau, a chredaf y caiff hynny ei gydnabod yn y ffordd y mae Estyn yn gwneud ei waith. A allwn ni fynd ymhellach i wella ein system atebolrwydd ein hunain i adlewyrchu hynny? Gallwn, fe allwn ni, ac rydym ni wrthi'n gwneud hynny, ac rwy'n gwybod fod Estyn eisiau sicrhau eu bod yn cydnabod effaith addysgeg dda ac ysgolion da ar blant.