Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 20 Ionawr 2021.
Diolch. Ar 11 Ionawr, cyhoeddais ein cynllun brechu cenedlaethol, gyda cherrig milltir a blaenoriaethau allweddol ar gyfer ei gyflawni. Mae'r cynllun yn adlewyrchu misoedd o waith cynllunio manwl gan y GIG, ynghyd â chefnogaeth gan gymheiriaid yn y lluoedd arfog a llywodraeth leol. Yng Ngwent, mae 72 o’r 74 practis meddyg teulu yn cefnogi’r gwaith o gyflawni'r rhaglen frechu, ac mae pum canolfan frechu torfol hefyd yn weithredol.