Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 20 Ionawr 2021.
Gallaf. Mae'n ymwneud ag oedi yn y broses o swp-brofi’r dosau. Felly, credwn y bydd oedi i'r cyflenwad yng Nghymru, yn hytrach na’u bod yn cael eu colli’n gyfan gwbl, ac mae'n fater sy'n effeithio ar y DU hefyd. Felly, mae gennyf gyfarfod arall gyda'r Gweinidog brechlynnau, Nadhim Zahawi, o Lywodraeth y DU yr wythnos hon. Rwy'n cael cyfarfod arall gyda Gweinidogion Cabinet cyfatebol ar gyfer iechyd o bob rhan o'r DU yr wythnos hon hefyd. Felly, rydym yn parhau i siarad gyda’n gilydd am faterion cyflenwi a darparu’r brechlyn, a hyd y gwelaf, nid oes problem benodol y gallaf roi mwy o fanylion yn ei chylch yn y ffordd y mae’r Aelod yn gofyn, heblaw dweud fy mod yn gobeithio rhoi sicrwydd defnyddiol ynghylch y ffaith bod y pedair gwlad yn gweithio gyda'i gilydd, ac mae'r oedi i'n cyflenwad yn rhywbeth rydym yn disgwyl gallu gwneud iawn amdano fel y gall ein staff a'n cydweithwyr gwych a gweithgar yn y GIG barhau i gyflwyno'r rhaglen frechu i helpu i ddiogelu pobl ledled y wlad.