Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:48, 20 Ionawr 2021

Diolch, Llywydd. Y bore yma, mae yna awgrym y gallai'r JCVI argymell newid y grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechu os ydy tystiolaeth, sy'n dechrau ymddangos rŵan, yn dangos fod brechu yn cael effaith ar sut mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo hefyd. Hynny ydy, ei fod o nid yn unig yn stopio rhywun rhag mynd yn sâl ond yn gwarchod pobl eraill o'u cwmpas nhw hefyd. Dwi'n gwybod mai dilyn cyngor y JCVI ydy polisi Llywodraeth Cymru, ond all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa mor barod ydy'r Llywodraeth i newid y strategaeth, os oes angen, o ran yr isadeiledd digidol angenrheidiol ac ati? Ydy'r Llywodraeth yn gallu gweithredu polisi newydd ar fyr rybudd os mai dyna ydy'r cyngor mae'r Llywodraeth yn ei gael?