Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 20 Ionawr 2021.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Hoffwn bwysleisio'r gwaith pwysig a wneir ym maes gofal cartref. Weithiau, ceir dryswch rhwng effeithlonrwydd a thrawsnewid a gwasanaeth salach ac amodau gwaith salach. A wnaiff y Gweinidog gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu mwy o wasanaethau gofal cartref yn uniongyrchol?