Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 20 Ionawr 2021.
—gydag ad-drefnu'r ffatri a brechlyn Pfizer.
Ond os caf eich holi hefyd ynglŷn â thystiolaeth a ymddangosodd ym mhapurau'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau mewn perthynas â’n cymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a'r gwaith y mae SAGE wedi'i wneud ar ganfyddiad y cymunedau hynny o’r rhaglen frechlyn, roedd y gwaith a wnaethant yn nodi bod canran uchel—72 y cant, mewn gwirionedd—o'r bobl a holwyd naill ai'n annhebygol neu'n annhebygol iawn o gael y brechlyn. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i dawelu ofnau pobl yn ein cymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac i fynd i'r afael â'r dystiolaeth y mae SAGE wedi'i chyflwyno fod y cymunedau hynny’n gyndyn o fanteisio ar y brechlyn?