Cyflenwi a Defnyddio Brechlynnau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:10, 20 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, a gaf fi a fy mhlaid ategu’ch sylwadau am ddiogelwch ac effeithiolrwydd y brechlyn? Byddwn i—a phob un ohonom, rwy'n credu—yn annog pobl i gael y brechlyn cyn gynted ag y caiff ei gynnig iddynt. A gaf fi ofyn i chi: ar ôl i’r Prif Weinidog ddweud ei fod wedi egluro ei sylwadau, a allech chi egluro—a yw wedi tynnu’n ôl ei ddatganiad y dylem wneud i'r brechlyn Pfizer bara hyd nes bod y cyflenwad nesaf wedi'i drefnu, neu ei ddatganiad mai'r rheswm am hynny yw er mwyn osgoi unrhyw risg y bydd brechwyr yn cicio'u sodlau heb ddim i'w wneud?