Cyflwyno Brechlyn COVID-19

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 1:34, 20 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, byddai'n ddefnyddiol pe gallech roi manylion i mi ynglŷn â’r achosion y cyfeiriwch atynt, a byddai hefyd o gymorth pe byddech yn dweud yn glir a ydych wedi codi achosion yr unigolion hyn naill ai gyda phractis cyffredinol neu gyda'r bwrdd iechyd. Rydym yn awyddus i sicrhau bod y rhaglen frechu’n cael ei chyflwyno cyn gynted â phosibl, ond hefyd mewn ffordd sy'n rhoi hyder ac sy’n deall yr heriau ynghylch sut y mae pobl yn byw eu bywydau. Rwyf wedi gweld llawer o enghreifftiau o ble mae cyplau wedi cael eu gwahodd gyda'i gilydd yn fwriadol i sicrhau y gallant gael y brechlyn ar yr un pryd. Felly, nid wyf yn ymwybodol o'r broblem y cyfeiriwch ati, ond os gallwch roi mwy o fanylion i mi, rwy’n fwy na pharod i edrych ar hynny er mwyn ceisio datrys y mater.