Iechyd Meddwl Amenedigol

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:30, 20 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Fel y gwyddoch, mae gwasanaethau amenedigol wedi'u dynodi'n wasanaeth hanfodol yn ystod y pandemig. Mae timau cymunedol wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y cymorth hwnnw wedi parhau i fod ar gael, gan gynnwys drwy gymorth digidol a chymorth dros y ffôn. Rydym yn parhau i fonitro'r dystiolaeth i lywio ein dull o weithredu, er enghraifft gydag adroddiad 'Babies in Lockdown' ac astudiaeth Ganwyd yng Nghymru.