Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 20 Ionawr 2021.
Wel, dwi'n ddiolchgar ichi, Gweinidog, am yr ymateb yna. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod gwasanaeth cymorth cwnsela lles emosiynol ar-lein newydd i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed wedi'i lansio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r gwasanaeth digidol hwn yn gam enfawr ymlaen. Bydd pobl ifanc yn gallu derbyn cefnogaeth yn ddienw ar ffurf cwnsela a chefnogaeth cymar i gymar, yn ogystal â chael mynediad at ystod eang o ddeunyddiau hunangymorth. Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r bwrdd iechyd am y gwasanaeth hwn? Ac a allwch chi ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r gefnogaeth hon ymhlith bobl ifanc ledled sir Benfro? A hefyd, allwch ddweud wrthym ni am un gwelliant gwasanaeth iechyd meddwl penodol sydd wedi digwydd ers i chi gael eich penodi'n Weinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl?