Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 20 Ionawr 2021.
Wel, mae yna amheuon mawr ynghylch a ddylai gwasanaethau iechyd meddwl Betsi Cadwaladr fod wedi cael eu tynnu mas o fesurau arbennig oherwydd y gwendidau sy'n parhau o fewn y gwasanaeth. Mewn adroddiad diweddar i'r bwrdd iechyd, fe restrodd y cyfarwyddwr nyrsio dros dro amryw o wendidau o fewn y gwasanaeth, ac mae'n rhestr ddamniol, mae'n rhaid i mi ddweud. Mi orffennodd yr adroddiad drwy ddweud ar y foment na allai roi sicrwydd llawn i'r bwrdd ynglŷn ag ansawdd y gwasanaeth. Felly, os nad yw e yn medru rhoi sicrwydd ynghylch y gwasanaeth, sut allwch chi?