Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 20 Ionawr 2021.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ar ran fy mhlaid, Plaid Cymru, ond hefyd fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant a'r grŵp trawsbleidiol ar blant sy'n derbyn gofal, rolau rwy'n falch iawn ac yn ddiolchgar o gael eu rhannu gyda David Melding. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am yr adroddiad rhagorol hwn, gydag argymhellion pwerus a thystiolaeth dda iawn yn sail iddynt. Rwyf hefyd yn adleisio'r diolch a fynegwyd eisoes i bawb a gymerodd ran yn y broses o roi tystiolaeth, yn enwedig plant a phobl ifanc eu hunain.
Bydd y rheini ohonom, fel Cadeirydd y pwyllgor hwn, a oedd yn Aelodau o'r Senedd hon yn 2011 pan basiwyd y Mesur hawliau plant a phobl ifanc, yn cofio nad oedd y broses yn syml o bell ffordd a bod gwrthwynebiad gan rai rhannau o Lywodraeth Cymru ar y pryd am eu bod yn teimlo bod gosod y confensiwn ar sail gyfreithiol yn cyfyngu ar y Llywodraeth. Y lleisiau mwy blaengar a orfu, a hoffwn gofnodi eto fy niolch i bawb a'n helpodd mewn cymdeithas sifil, gyda llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i roi tystiolaeth, ac yn enwedig i academyddion Prifysgol Abertawe.
Pan basiwyd y ddeddfwriaeth gennym, roedd yn teimlo fel datblygiad cyffrous iawn ar drywydd a fu'n rhan o lwybr ein Senedd o'r dechrau, ac un o'r pethau cyntaf y bu'n rhaid inni ymdrin ag ef oedd adroddiad ofnadwy Waterhouse ar gam-drin plant. O'r dechrau un, rydym wedi trafod y materion hyn, ac roedd pasio'r ddeddfwriaeth yn teimlo fel cam pwysig ymlaen. Yn y cyd-destun hwnnw, mae'r adroddiad hwn yn siomedig mewn rhai ffyrdd, oherwydd er gwaethaf y cynnydd pendant a wnaed, mae'n amlwg fod cymaint mwy i'w wneud.
Rwyf am roi fy nghefnogaeth bersonol a chefnogaeth Plaid Cymru i'r holl argymhellion. Nid oes amser i gyfeirio atynt i gyd yn y ddadl hon wrth gwrs. Hoffwn ddechrau drwy dynnu sylw at y rheini sy'n ymwneud ag asesiadau o'r effaith ar hawliau plant. Mae angen inni drawsnewid y diwylliant fel bod pawb sy'n ymwneud â chynhyrchu'r asesiadau hyn yn eu gweld fel yr hyn y bwriedir iddynt fod, sef adnodd i helpu'r Llywodraeth i wella ymarfer, ac nid fel baich pellach. O wybod faint o bwysau sydd ar ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'n ddealladwy os mai dyna yw'r canfyddiad o'r asesiadau effaith hyn o bryd i'w gilydd, ond nid dyna yw'r bwriad. Mae hwn yn offeryn i'n helpu ni i gyd i wneud yn well dros blant, ac mae angen newid arnom fel bod pobl yn deall hynny. Nid yw cynnwys asesiadau o'r effaith ar hawliau plant o dan asesiadau cydraddoldeb ehangach yn gweithio. Nid ydynt yno i wneud yr un pethau. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Llywodraeth yn derbyn popeth a oedd gan y pwyllgor i'w ddweud ynglŷn ag asesiadau o'r effaith ar hawliau plant.
Rwyf am roi ein cefnogaeth yn arbennig i argymhelliad 3. Mae'n bwysig iawn fod Gweinidogion Cymru, ar y brig, yn deall goblygiadau'r Mesur iddynt hwy ac i'w gwaith, ac yn deall beth y bwriedir i 'sylw dyledus' ei olygu. Mae bob amser yn risg mewn unrhyw sefydliad ein bod yn colli cof sefydliadol, ein bod yn anghofio pam fod angen y ddeddfwriaeth hon yn y lle cyntaf, ein bod yn anghofio pa mor bwysig ydyw. Mae'r argymhelliad hwn yn gwneud llawer i fynd i'r afael â hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd pwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru yn frwd eu croeso iddo.
Mae'r argymhellion ynglŷn â gwneud iawn am gamweddau hefyd yn bwysig iawn. Nid wyf am geisio mynd drwyddynt fesul un, ond rwyf wedi credu ers tro nad oes gwerth i hawliau ynddynt eu hunain oni bai y gellir gorfodi'r hawliau hynny. Yn y pen draw, Lywydd, nid oes fawr o bwynt cael cyfraith os nad oes neb yn mynd i drwbl os yw'n torri'r gyfraith honno. Dyna ddiben cyfreithiau, neu fel arall gallwn gyflawni amcanion polisi gyda chyllidebau, gyda dogfennau polisi. Ond os yw'n gyfraith, rhaid bod ffordd i rywun sy'n teimlo bod y gyfraith honno wedi'i thorri—a phlant yn benodol yn yr achos hwn—allu dweud, 'Na, ni chafodd fy hawliau eu parchu, a dyma rwyf am ei weld yn digwydd o ganlyniad i hynny'. Mae'n rhan arbennig o bwysig o'r adroddiad hwn, ac roedd y dystiolaeth yn glir iawn i mi.