Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 20 Ionawr 2021.
Dyma ni'n cyrraedd, felly, y cyfnod pleidleisio, y bleidlais ar ddadl grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio ar fesurau yn y dyfodol i atal a mynd i'r afael â lledaeniad COVID-19. Dwi'n gofyn am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig pedwar, neb yn ymatal, 37 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.