Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl. Ac, fel y dywedais ar y dechrau, nid ein bwriad yw gohirio dyddiad yr etholiad, dyna fydd y dewis olaf ac i'w ddefnyddio dim ond lle mae'n gwbl angenrheidiol oherwydd y bygythiadau i iechyd y cyhoedd a achosir gan y coronafeirws. Ond, fel y mae llawer o Aelodau wedi cytuno, a ninnau yn Llywodraeth gyfrifol, mae'n rhaid i ni baratoi i'n galluogi i ymateb i sut allai'r coronafeirws danseilio uniondeb yr etholiad. Gwnaeth nifer o Aelodau bwyntiau ynghylch y trefniadau ar gyfer diddymu, y trefniadau ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiad o ran y Llywodraeth bresennol, a nifer o faterion eraill sydd o bwys ymarferol.
Yn hytrach nag ymdrin â'r holl bwyntiau niferus hynny nawr, hoffwn gynnig i holl arweinwyr a llefarwyr y gwrthbleidiau, ac i Aelodau fy mhlaid fy hun fel grwpiau o feincwyr cefn, os hoffen nhw gael cyfres o gyfarfodydd un i un gyda mi i drafod rhai o fanylion cymhleth hynny, rwyf yn fwy na pharod i gynnig hynny yn ystod y dyddiau nesaf, oherwydd bod gan y Bil amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol, ac rydym ni eisiau i bobl gael cymaint o ymgysylltu ag sy'n bosibl. Felly, gwnaf y cynnig hwnnw i unrhyw un sydd eisiau ei dderbyn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn yn wir i'r Comisiwn a swyddfa'r Llywydd a chithau am ymgysylltu â ni ynghylch hyn hyd yma hefyd.
Fel y mae pawb wedi dweud, heb y Bil hwn, byddwn yn colli dewis wrth gefn pwysig yn ein paratoadau ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai. Ein gobaith, wrth gwrs, yw y gall yr etholiad fynd yn ei flaen yn ôl y bwriad a bod yr etholwyr yn gallu pleidleisio'n rhydd ac yn ddiogel ar 6 Mai. Ond fel y cydnabu pawb yn y ddadl, nid yw cwrs y pandemig wedi bod yn llyfn ac mae'n iawn i ni yn Llywodraeth gyfrifol roi cynllun wrth gefn ar waith, hyd yn oed os yw'n un yr ydym ni'n gobeithio na fydd byth yn rhaid ei ddefnyddio. Os yw'r Bil am gyflawni'r swyddogaeth honno fel mesur wrth gefn, mae'n hanfodol y caiff ei gyflwyno fel Bil brys er mwyn ei basio mewn pryd ar gyfer yr etholiad ym mis Mai.
Cyn imi orffen, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddweud—wrth Mark Isherwood yn benodol—fy mod yn cael cyfarfod bob pythefnos gyda'r Aelod Seneddol Chloe Smith, y Gweinidog etholiadau yn Llywodraeth y DU. Rydym wedi bod yn trafod drwy gydol y paratoadau hyn yr angen am ddull tawel, digyffro ac anwleidyddol o ymdrin â'r etholiadau hyn, a byddwn yn argymell y dull hwnnw iddo'n benodol. Ac ar y nodyn hwnnw, Dirprwy Lywydd, anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr.