Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 26 Ionawr 2021.
Symudwn ni yn awr i bleidleisio ar eitem 10, sef y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 y dylid trin Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel Bil brys y Llywodraeth, a galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Iawn. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 47, neb yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 10.