Meysydd Awyr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 26 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:41, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb. Nid yw meysydd awyr, wrth gwrs, wedi'u datganoli. Ond, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn dewis pryd y mae'n dymuno bod yn Llywodraeth Lloegr neu'n Llywodraeth y DU yn ôl ei mympwy. Prif Weinidog, ers 2013, mae'r Torïaid yng Nghymru wedi methu â chefnogi ein meysydd awyr, yng Nghaerdydd ac Ynys Môn. Pan brynwyd y maes awyr yng Nghaerdydd yn 2013, dyfeisiwyd stori ganddyn nhw ei bod wedi cael ei brynu am bris a oedd yn llawer rhy uchel, a oedd yn gwbl anwir. Fe wnaethon nhw ganiatáu i'w hideoleg gyfrif mwy na swyddi. Nid oedden nhw'n hoffi'r ffaith ei fod mewn perchnogaeth gyhoeddus, ac roedd hynny yn bwysicach na diogelu swyddi'r bobl a oedd yn gweithio yno mewn gwirionedd. Byddai'r maes awyr hwnnw wedi cael ei droi yn ystâd o dai, mae'n siŵr. Byddai'r cynghorwyr, wedyn, wedi gwrthwynebu hynny hefyd. A yw'n wir, Prif Weinidog, nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn fodlon cefnogi'r diwydiant awyrennau yng Nghymru, a dyna sy'n eu gwneud nhw'n anaddas i lywodraethu Cymru, nawr ac yn y dyfodol?