Hawliau Gweithwyr y DU

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 26 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:05, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, roedd cwestiwn Huw Irranca-Davies yr wythnos diwethaf yn rhagweledol, oherwydd rhoddodd ei fys ar y mater hwn cyn i adroddiadau yn y wasg ymddangos o gynlluniau sy'n digwydd y tu mewn i Lywodraeth y DU. Dyma sut y cawsant eu hadrodd:

Byddai amddiffyniadau gweithwyr sydd wedi'u hymgorffori yng nghyfraith yr UE—gan gynnwys yr wythnos 48 awr—yn cael eu dileu'n llwyr o dan gynlluniau sy'n cael eu llunio gan y llywodraeth yn rhan o ailwampio marchnadoedd llafur y DU ar ôl Brexit.

Mae'r pecyn o fesurau dadreoleiddio yn cael ei lunio gan adran fusnes y DU gyda chymeradwyaeth Downing Street...gofynnwyd am farn arweinyddion busnes dethol ar y cynllun.

Nawr, ai'r Morning Star sy'n adrodd beth sy'n digwydd, Llywydd? Nage, y Financial Times sy'n dweud wrthym ni beth sy'n digwydd y tu mewn i Lywodraeth y DU. Mae'n warthus. Mae'n gwbl warthus bod Llywodraeth a wnaeth addewidion o'r fath i bobl y byddai eu hawliau yn cael eu diogelu pe bydden nhw'n pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn llunio, o fewn wythnosau i hynny ddigwydd, cynlluniau cyfrinachol i gael coelcerth o'r amddiffyniadau hynny.

Yn ystod y pandemig hwn, cadwyd ein gwlad yn rhedeg gan fyddin o weithwyr allweddol agored i niwed, gan gynnwys gweithwyr asiantaeth, y mae eu hawliau cyfyngedig yn aml iawn yn deillio o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw dileu'r hawliau hynny yn unrhyw ffordd o gwbl o'u gwobrwyo, ac ni fyddan nhw'n anghofio—ni fyddan nhw'n anghofio yr hyn sydd gan y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru ar y gweill iddyn nhw: fel y dywed Huw Irranca-Davies, dyfodol lle bydd gofyn iddyn nhw weithio yn hwy am lai. Ond rydym ni'n gwybod beth mae'r Blaid Geidwadol yn ei feddwl ohonyn nhw, Llywydd, onid ydym ni? Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol presennol yn yr adran fusnes yn gyfrannwr at y llyfr drwg-enwog hwnnw Britannia Unchained o lai na degawd yn ôl, pan ddisgrifiodd aelodau Ceidwadol y Cabinet weithwyr Prydain ymhlith y diogynnod gwaethaf yn y byd.

Nawr, maen nhw'n gallu rhoi'r safbwynt ideolegol hwnnw o'r byd ar waith.