Busnesau Hunanarlwyo

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 26 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:03, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod yr Aelod wedi cyflwyno safbwynt Llywodraeth Cymru yn gywir: rydym ni wedi rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol gymhwyso'r meini prawf a nodwyd gennym ni o dan yr amgylchiadau penodol y maen nhw'n eu hwynebu. Bydd disgresiwn yn golygu bod rhai awdurdodau lleol yn mynd ati i wneud hynny mewn ffyrdd nad yw eraill yn ei wneud. Dyna natur disgresiwn. Mae'r Aelod wedi cyflwyno safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwnnw yn gywir.