Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolchaf i Bethan Sayed am y cwestiwn yna. Ymhlith y mesurau diweddaraf a gymerwyd i amddiffyn a chynorthwyo gweithwyr allweddol yng Nghymru mae cryfhau ein rheoliadau coronafeirws yn y gweithle ac mewn lleoliadau manwerthu yn arbennig a wnaed yr wythnos diwethaf. Mae gweithwyr o'r fath wedi bod yn flaenllaw yn ein rhaglenni cyfarpar diogelu personol, profi a brechu erbyn hyn, drwy gydol cyfnod y pandemig.