Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolch i chi am eich sylwadau, ac rwy'n cytuno â chi fod hwn wedi bod yn waith aruthrol gan gydweithwyr ym maes gofal sylfaenol ac ar draws ein tîm ni a gaiff ei arwain gan GIG Cymru i sicrhau'r cyflymder ychwanegol sylweddol i weinyddu'r brechlyn. Ac rwy'n falch eich bod chi a'ch cydweithwyr yn gweld gwerth y sesiynau briffio ar iechyd gyda'r prif swyddog meddygol, y prif gynghorydd gwyddonol a minnau. Fe fyddwn ni'n parhau i gynnal y rhain.
O ran y genadwri am y brechlyn, rwy'n credu bod hwn yn gyfle defnyddiol i ailddatgan ei bod yn cymryd amser i fagu'r amddiffyniad ar ôl gweinyddu'r ddos gyntaf o'r brechlyn, ac felly ni all pobl gael eu brechu ac ymddwyn fel pe bai popeth yn normal wedyn a mynd ati i gymryd mwy o risgiau. Ni fyddai hynny'n golygu y bydden nhw'n elwa ar yr amddiffyniad o gwbl. Ond hyd yn oed gyda'r amddiffyniad, rydych chi'n iawn: mae'r brechlynnau wedi cael eu treialu ac wedi rhoi data am amddiffyn pobl rhag niwed. Mae hynny'n golygu eich bod chi'n llawer mwy tebygol o fod wedi eich amddiffyn rhag mynd yn ddifrifol wael ac mewn perygl o orfod mynd i ysbyty neu farwolaeth, pan fydd yr amddiffyniad wedi dechrau. Eto i gyd, nid yw hynny'n golygu na allech chi gael COVID; nid yw hynny'n golygu na allech chi drosglwyddo COVID i rywun arall, felly mae'n bwysig iawn bod pawb yn dal ati i ddilyn y mesurau amddiffynnol sydd ar waith er ein lles ni i gyd. Hyd yn oed gyda niferoedd sylweddol o bobl yn cael eu brechu a'u hamddiffyn, byddai modd gwneud niwed gwirioneddol o hyd pe byddai llai o gadw pellter cymdeithasol, mwy o bobl yn cymysgu dan do, a phobl yn anghofio arferion amddiffynnol fel golchi dwylo, neu wisgo gorchudd wyneb, a chael awyru da.
Yn fy marn i, mae'n arbennig o bwysig gwneud y pwynt hwn wrth gofio bod ein ffigurau ni o ran marwolaethau, yn drist iawn, yn ystod yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn uchel iawn. Rydym yn dechrau gweld gwelliant o ran y pwysau ar ein GIG, rydym yn dechrau gweld lefelau'r derbyniadau i ysbytai yn sefydlogi ac yn gostwng ychydig, ond mae hynny yng nghyd-destun y lefelau uchaf erioed o gleifion yn ein hysbytai ni. Mae'n werth atgoffa pobl, er ein bod ni'n gweld gwelliant, fod y gwelliant hwnnw'n dal i olygu bod gofal critigol yn gweithio ar gyfradd o 140 y cant, i lawr o 150 y cant, ond mae'n parhau i fod ar 140 y cant o'i gapasiti arferol. Felly mae angen i bob un ohonom ni gadw at hyn am ryw hyd eto i sicrhau nad ydym yn colli pobl nad oes angen eu colli ar hyd y daith yr ydym arni tuag at ddiwedd y pandemig.