Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru

Part of QNR – Senedd Cymru ar 26 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Unwaith eto, rydym wedi gweld y difrod y gall llifogydd ei achosi. Mae llawer o bobl ar draws Cymru’n wynebu dwy broblem ar yr un pryd: llifogydd i’w cartrefi a phandemig y coronafeirws. Ddydd Gwener diwethaf gwnaethom gyhoeddi cymorth o rhwng £500 a £1,000 drwy awdurdodau lleol ar gyfer pob aelwyd sydd wedi dioddef llifogydd.