Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 27 Ionawr 2021.
Weinidog, mae dros £32 miliwn wedi’i roi mewn grantiau busnes i fusnesau ar draws Castell-nedd Port Talbot, ac rwy'n croesawu hynny’n fawr. Ond mae llawer o'r busnesau bach hynny’n dibynnu ar un busnes mawr—Tata—yn fy etholaeth, ac maent wedi gwneud cais i Lywodraeth y DU o'r blaen am gymorth drwy gyllid y cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws. Nid ydynt wedi clywed unrhyw beth eto. A ydych wedi cael cyfle i siarad ag Ysgrifennydd Gwladol newydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i drafod sut y gall gefnogi Tata yn ystod y cyfnod penodol hwn?