Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 27 Ionawr 2021.
Wel, a gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiwn? Yn amlwg, bu cryn dipyn o alw gan fusnesau ar y cychwyn am arian o’r gronfa sector-benodol gan fod angen dirfawr am gymorth i'r mentrau sy'n dioddef yn fawr ar hyn o bryd. Gallaf ddweud wrth Russell George a'r Aelodau fod mwy na 7,600 o geisiadau wedi'u cyflwyno hyd yn hyn, sy'n werth cyfanswm o oddeutu £70 miliwn eisoes. Mae'r gronfa, yn amlwg, yn parhau i fod ar agor fel y cynlluniwyd, ac rydym yn parhau i ddarparu diweddariadau ar ei statws ar wefan Busnes Cymru yn ôl yr angen. Hyd yn hyn, gwnaed mwy na 880 o gynigion, gwerth dros £5.5 miliwn, gyda busnesau'n derbyn £3 miliwn o’r swm hwnnw, ac mae mwy na £2 filiwn eisoes wedi'i dalu.