Cefnogaeth i Fusnesau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:42, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Fel y nododd y Gweinidog, rydym yn cydnabod mai’r cymorth a gynigiwyd i fusnesau Cymru yw’r mwyaf hael o holl Lywodraethau'r DU. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad yw'r cyllid sydd ar gael i fusnesau Cymru yn ddigon, hyd yn oed gyda chymorth Llywodraeth y DU, o ystyried nifer y busnesau ar draws pob sector sydd naill ai'n cau'n barhaol neu sy'n cael gwared ar swyddi ar raddfa frawychus, fel y gwelwyd wrth i dri safle manwerthu mawr ynghanol y dref ym Mhont-y-pŵl gau yn ddiweddar. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg mai'r unig bosibilrwydd o atal y niwed trychinebus hwn i economi Cymru yw dod â'r cyfyngiadau symud i ben. A all y Gweinidog roi unrhyw syniad pryd y bydd hyn yn digwydd fel y gall y rheini sydd mewn sefyllfaoedd economaidd enbyd weld rhywfaint o oleuni ar ben draw’r twnnel?