Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 27 Ionawr 2021.
Mae Gorllewin De Cymru eisoes yn dioddef ei ergydion economaidd ei hun, yn anad dim o ganlyniad i ba mor agored yw’r cadwyni cyflenwi sy'n bwydo i mewn i'r sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden sydd bellach yn fregus iawn. Weinidog, rydych wedi cydnabod y bregusrwydd hwnnw gyda chymorth ariannol wedi'i glustnodi i lawer o fusnesau rheng flaen, ond wrth gwrs, ni fyddant yn prynu stoc nac yn ymrwymo i welliannau cyfalaf ar hyn o bryd. Mae datblygu'r economi sylfaenol yn rhan fawr o'ch polisi, ynghyd â hyrwyddo bwyd a diod o Gymru. Rydych wedi mynnu y dylai busnesau hyfyw fod gyda ni o hyd wedi’r pandemig, felly ble rydych chi arni ar hyn o bryd o ran sicrhau hyfywedd y llwybr gât i'r plât hwnnw?