Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 1:54, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Yn ychwanegol at ymatebion y Gweinidog i Russell George, a yw’n rhannu’r pryderon a fynegwyd yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, yn ôl pob golwg, ynglŷn â sicrhau bod yr arian yn cael ei ddarparu’n ddigon cyflym? Wrth ddweud hyn, Lywydd, rwy’n cydnabod yn llwyr fod hon yn dasg enfawr, a bod llawer o’r bobl sydd wedi bod ynghlwm, ar bob lefel, wrth ddarparu cymorth i fusnesau yng Nghymru wedi gwneud ymdrechion cwbl arwrol. Ond fel eraill sydd wedi siarad eisoes heddiw, mae gennyf rai pryderon ynglŷn â sicrhau bod yr adnoddau hynny’n mynd i’r lle iawn yn ddigon cyflym.

Rwyf wedi clywed, er enghraifft, fod arolwg o fusnesau lletygarwch mewn un rhan o Gymru wedi dangos bod 75 y cant ohonynt wedi cael eu gwrthod ar gyfer un neu'r llall o gynlluniau Llywodraeth Cymru. Nid oeddent yn gallu dweud yn glir wrthyf ar gyfer pa gynlluniau y cawsant eu gwrthod. A dywedais hyn wrth y Gweinidog hefyd, fod cryn dipyn o gymhlethdod i’w gael rhwng y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU a’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, a gofynnaf i'r Gweinidog beth arall y gall ei wneud i sicrhau bod busnesau'n deall yr hyn y dylent wneud cais amdano a sut y gallant gael mynediad ato. Os oes problemau gyda darparu arian yn ganolog, er enghraifft drwy Busnes Cymru, a yw'r Gweinidog o'r farn y gallai fod achos dros ddargyfeirio rhywfaint o'r adnoddau newydd ar gyfer darparu cymorth dewisol ychwanegol wedi'i weinyddu gan awdurdodau lleol, a allai ei chael hi'n haws penderfynu a oes rhai busnesau'n methu bodloni'r meini prawf ffurfiol efallai, ond bydd ganddynt well syniad a ydynt yn fusnesau dilys ai peidio?