Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 1:58, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Mae’r darlun yn un eithaf cymhleth o hyd, a byddaf yn dychwelyd at hyn drwy ohebiaeth â'r Gweinidog ynglŷn ag a allwn ddefnyddio awdurdodau lleol i raddau mwy, yn enwedig er mwyn sicrhau cymorth i rai o'r busnesau lleiaf un sy'n dal i fod yn bwysig iawn o ran y bobl maent yn eu cyflogi.

A gaf fi ofyn i'r Gweinidog nawr am gymorth mwy hirdymor? Yn amlwg, rydym yn gobeithio cael etholiad ym mis Mai, ond gwyddom hefyd fod rhai o gynlluniau mawr y DU—ac rwy'n meddwl yn benodol am y cynllun cadw swyddi, y cynllun ffyrlo—i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth ar hyn o bryd. Tybed a oes gan y Gweinidog unrhyw syniad, o ystyried, yn anffodus, fod y sefyllfa mewn perthynas â'r feirws yn dal i fod yn ddifrifol iawn—gallwn weld rhai gwelliannau, ond mae'n dal i fod yn ddifrifol iawn—a yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw arwydd gan Lywodraeth y DU ynglŷn ag a yw cynlluniau Llywodraeth y DU yn debygol o gael eu hymestyn ymhellach ai peidio, os ydym mewn sefyllfa lle na all busnesau fel lletygarwch ailagor? A pha ystyriaeth y mae'r Gweinidog a'i dîm yn ei rhoi i'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud os na fydd cymorth y DU yn parhau, neu os nad yw'n parhau ar ei ffurf bresennol? Rwy'n sylweddoli, wrth gwrs, nad oes gan Lywodraeth Cymru adnoddau i wneud rhywbeth fel y cynllun ffyrlo, ond hoffwn ddweud wrth y Gweinidog y gallech fod eisiau ystyried pa sectorau yw’r rhai mwyaf tebygol o barhau i gael eu heffeithio ac a fyddwch yn gallu darparu rhywfaint o gymorth ai peidio yn nes ymlaen yn yr haf, yn enwedig i fusnesau lletygarwch a thwristiaeth os na allant agor.