Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 27 Ionawr 2021.
Gwnaf, wrth gwrs. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau y gall busnesau adfer wedi'r pandemig a byddwn yn parhau i gefnogi swyddi a'n heconomi.
Yng Nghanol De Cymru, mae'r gronfa ddiweddaraf ar gyfer busnesau dan gyfyngiadau wedi darparu mwy na £15.5 miliwn i 4,700 o fusnesau ac mae'r gronfa sector-benodol wedi gwneud 175 o daliadau gwerth mwy nag £1 filiwn hyd yn hyn.