Cynlluniau Gwella Ffyrdd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:26, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiwn? Ac mewn perthynas â phont Cefn, rwy'n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd o ganlyniad i'r gwaith y mae angen ei wneud, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gydag ymateb llawn. O ran ffordd yr A458 rhwng y Trallwng a’r Amwythig wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda swyddogion cyfatebol dros y ffin ar gynlluniau i wella llwybrau sy'n croesi ffin Cymru a Lloegr. Wrth gwrs, byddaf yn awyddus i sicrhau bod yr Aelod yn cael ei hysbysu pan fydd unrhyw gynnydd ar unrhyw un o'r cynlluniau trawsffiniol hynny, ac unwaith eto, byddaf yn ysgrifennu ato gyda manylion pellach.FootnoteLink