Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 27 Ionawr 2021.
Rydym yn deall bod y diwydiant dur ac undebau wedi rhoi croeso gofalus i’r cytundeb cydweithredu masnachol rhwng yr UE a’r DU. Rydym yn croesawu’r cwotâu di-dariff y cytunwyd arnynt ar gyfer allforion dur Prydain i’r UE, ond rydym yn rhannu pryderon y diwydiant fod capasiti gwerthiannau i Ogledd Iwerddon yn cyfrif yn erbyn y cwotâu hyn.