Diwydiant Dur Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:40, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Rwy'n sicr yn derbyn y pwynt y mae David Rees yn ei godi yn ei gwestiwn. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu, ac yn parhau i wneud popeth yn ein gallu, i gefnogi dur a gynhyrchir ym Mhrydain, a dur a gynhyrchir yng Nghymru yn ein hachos ni wrth gwrs. Un o'r ystyriaethau rydym yn bryderus yn ei chylch yw mai un o ganlyniadau'r trefniadau diogelu sydd ar waith ar hyn o bryd yw bod y cwota sy'n diogelu dur a gynhyrchir ym Mhrydain yn cael ei lyncu i bob pwrpas, os mynnwch, gan ddur tramwy i Ogledd Iwerddon. Ac felly dyna un o'r pryderon—rydych eisiau sicrhau na ddylai hynny leihau argaeledd cyffredinol y diogelwch sydd ar gael i ddur Prydain.