Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:18, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn adleisio pryderon Joyce Watson ynglŷn â hyn. Fel Llywodraeth byddwn yn parhau â'n hymdrechion i sicrhau bod yr effaith economaidd ar y porthladdoedd yn y rhanbarth y mae'n ei chynrychioli, a busnesau ledled Cymru yn wir—eu bod yn gallu ymateb i'r rhwystrau newydd hyn y mae'r cytundeb masnach a chydweithredu wedi'u cyflwyno. Nid oes amheuaeth y bydd llawer o heriau'n wynebu busnesau yn y dyfodol. Rydym yn gweithio i geisio deall goblygiadau'r hyn sy'n dal i fod yn set newydd iawn o drefniadau, a byddwn yn gobeithio darparu canllawiau penodol pellach i fusnesau yng Nghymru yn ystod yr wythnosau nesaf mewn perthynas â hynny. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi clywed apêl Joyce Watson ar ran y rhan o'r byd y mae'r ddau ohonynt yn ei chynrychioli.