Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 27 Ionawr 2021.
Diolch, David. Hoffwn gofnodi eto fy niolch i'r awdurdod lleol a'r gwasanaethau brys, sy'n gweithio mor galed i gefnogi'r bobl ledled Cymru y mae storm Christoph a digwyddiadau tywydd garw eraill wedi effeithio arnynt. Rwy'n sicr yn cydnabod yr effaith ar y rhai a gafodd eu symud o'u cartrefi yn Sgiwen, yn enwedig yn ystod y pandemig presennol. Ac rwy'n falch iawn o gadarnhau y bydd y rhai y bu'n rhaid iddynt adael eu cartrefi am fwy na 24 awr yn cael eu cefnogi yn yr un modd â deiliaid tai a ddioddefodd lifogydd yn eu cartrefi yn ystod y cyfyngiadau symud cynharach.