Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 27 Ionawr 2021.
Weinidog, rydym mewn ras i achub bywydau a busnesau ac iechyd meddwl. Mae croeso mawr i'r newydd heddiw gan y swyddog meddygol fod y gyfradd R wedi gostwng a bod gwelliant amlwg yng nghyfraddau'r trosglwyddiad cymunedol ledled ein gwlad. Mae hyn yn galonogol iawn. Fodd bynnag, fel y clywsom gan Helen Whyley o'r Coleg Nyrsio Brenhinol ar y BBC heddiw, ni allwn fod yn hunanfodlon. Mae'r GIG yn dal i fod o dan bwysau aruthrol. Felly, bydd angen i ni gael cynllun ar waith, nid yn unig ar gyfer amrywiolyn newydd Caint o'r clefyd sydd wedi lledaenu i bob rhan o Gymru, ond cynllun hefyd rhag ofn y bydd mathau pellach o'r feirws yn dod i'r amlwg.
Rhaid inni ganolbwyntio yn awr ar yr hyn y gallwn ei reoli. Rhaid inni sicrhau bod y brechlyn yn cael ei gyflwyno'n gyflym. Ydy, mae'n wych ein bod ni wedi dal i fyny gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon, ond mae gennym ffordd bell i fynd i ddal i fyny â Lloegr o hyd. Mae angen darparu 44,000 o frechlynnau i gyrraedd y targed hwnnw—dyna faint Merthyr Tudful. Ni allwch fod yn ffuantus a beio'r eira am fethu eich targed yr wythnos hon. Methodd y Llywodraeth eich targed clir eich hun a roesoch o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed. Pa bryd y cyrhaeddwch y targed hwnnw? Nid wyf wedi eich clywed yn dweud pa bryd y cyrhaeddwch y targed hwnnw. Rhaid inni wybod hynny—nid yr honiad niwlog, 'Rydym yn mynd i gyrraedd popeth erbyn canol mis Chwefror.' Mae angen inni gael targedau clir.
Mae gennym sefyllfa lle nad yw cyplau'n cael eu galw i gael eu brechu gyda'i gilydd, lle nad yw gofalwyr yn cael eu brechu ar yr un pryd â'r person y maent yn gofalu amdanynt. Er enghraifft, dim ond ar ddau ddiwrnod yr wythnos y mae un ganolfan frechu torfol yn Sir Fynwy yn darparu brechlyn Rhydychen, ond pe bai'n newid i'r brechlyn Pfizer, gellid ei ddarparu saith diwrnod yr wythnos, fel yng Nghasnewydd a Chwmbrân. Nid yw camau ymarferol syml yn digwydd. Mae ein byrddau iechyd lleol yn gwneud eu gorau, ac rwy'n eu cymeradwyo am y gwaith y maent wedi'i wneud—mae wedi bod yn wych—ond chi, Weinidog, sy'n gyfrifol am y mathau hyn o fethiannau bach, ac maent yn cael effaith enfawr arnom o ran cael y brechlyn allan cyn gynted â phosibl.
Mae angen targedau clir ar y Llywodraeth, mae angen iddi gyhoeddi mwy o ddata ar gyflwyno'r rhaglen, i'w ddadansoddi nid yn unig gennym ni ond gan y cyhoedd, fel y gallant weld yn glir beth sy'n digwydd. Rwy'n cynnal grwpiau cymorth a chefnogaeth coronafeirws, a'r wybodaeth rwy'n ei rhoi yno yw'r unig wybodaeth y mae llawer o bobl yn ei chael am eu bod yn mynd i wefan y Llywodraeth ac nid yw yno. Mae angen cyfathrebu cliriach arnoch, cyfathrebu hawdd ei ddarllen, a chyfathrebu dealladwy i'r cyhoedd ynglŷn â ble rydych chi arni a pha dargedau rydych chi'n ceisio'u cyrraedd.
Ymddengys i mi fod rhaid cael Gweinidog penodedig i sicrhau bod y broses o gyflwyno'n digwydd yn gyflym ac yn effeithlon. Rhaid bod gennych lawer iawn o waith, Weinidog, ac rwy'n eich cymeradwyo am yr hyn rydych yn ei wneud, ond mae angen person penodedig ar y rhaglen gyflwyno i sicrhau ei bod yn cael ei chyflwyno cyn gynted ag y bo modd, nid yn unig i ni, ond i bobl Cymru—