Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 27 Ionawr 2021.
Diolch. Rwy'n dychwelyd at y cwestiwn hwn o ymchwiliad annibynnol i lifogydd am yr eildro mewn ychydig dros fis, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Ar ôl y llifogydd dinistriol ym mis Chwefror 2020 a'r llifogydd sydyn a ddilynodd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae yna gartrefi o hyd yn Rhondda Cynon Taf lle mae pobl yn aros iddynt gael eu hadfer. Ar wahân i rai o'r symudiadau tir sy'n peri mwy o bryder, ni wnaeth y glaw trwm yr wythnos diwethaf effeithio ar y Rhondda i raddau helaeth, diolch byth, ond gwn na fu llawer o bobl eraill mewn rhannau eraill o RhCT mor ffodus, ac mae fy nghalon yn gwaedu dros bob person y mae llifogydd ledled Cymru a thu hwnt wedi effeithio arnynt. Mae hyn i gyd yn dangos bod ein gwlad yn agored i niwed llifogydd. Mae hefyd yn dangos nad yw'r system bresennol yn amddiffyn ein dinasyddion na'n cymunedau. Rydym mewn argyfwng hinsawdd. Bellach, mae mwy o debygolrwydd y bydd patrymau tywydd eithafol yn dod yn fwy rheolaidd. Nid ydym yn gwybod sut y bydd y tywydd gwaeth hwn yn cyfuno â'n pyllau glo a'n mwynfeydd tanddaearol, ac mae angen inni wybod, a hynny ar frys.
Pan wnaethom drafod hyn ddiwethaf, ni chefais atebion i fy nghwestiynau, ac felly y tro hwn fe'i cadwaf yn syml. Mae gennyf un cwestiwn i'r Llywodraeth. Os yw Aelodau Seneddol Llafur o Rondda Cynon Taf yn galw am ymchwiliad i lifogydd yn Lloegr, sut y gallwch wrthwynebu un yma yng Nghymru pan fo gennych bŵer i gychwyn un? Helpwch fi a'r miloedd o bobl a lofnododd ddeiseb yn galw am ymchwiliad llifogydd annibynnol i ddeall eich rhesymeg ar hyn. Gwyddom o ddogfen fewnol gan Lafur a ddatgelwyd yn answyddogol eich bod yn deall nad yw eich dull o ymdrin â pherygl llifogydd wedi bod yn ddigon da. Mae dogfen ymgynghori'r maniffesto yn cydnabod, ac rwy'n dyfynnu, 'yr angen am fuddsoddiad a newid polisi, er mwyn meithrin mwy o allu i wrthsefyll digwyddiadau tywydd garw o'r math a welsom yn 2020.' Mae hyn yn cyd-fynd â'r cyngor gan yswirwyr, sy'n annog Llywodraeth Cymru i wario mwy ar adeiladu a chynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd, cynyddu'r defnydd o fesurau gwrthsefyll llifogydd mewn eiddo, a newid y system gynllunio i atal datblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd.
Rhaid i blannu coed fod yn elfen allweddol o atal llifogydd. Mae pobl yn y Rhondda yn deall yn rhy dda fod cwympo coed wedi cael effaith. Credant mai cwympo coed a'r methiant i gael gwared ar rwbel a malurion yw'r rheswm pam y gwelsant lifogydd yn eu cartrefi. Byddai ailblannu'r coed hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, yn diogelu bioamrywiaeth ac yn diogelu pobl rhag llifogydd, ac nid oes dadl ynglŷn â phwysigrwydd plannu coed. Ac eto, mae methiant truenus y Llywodraeth hon i gyrraedd ei thargedau ei hun ar gyfer plannu coed yn gofyn am drwbl. Gostyngwyd eich targed i blannu 5,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn tan 2030 i 2,000 hectar. Nid oedd modd cyrraedd y targed llai uchelgeisiol hwn hyd yn oed. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydych wedi cyrraedd tua 300 hectar y flwyddyn ar gyfartaledd, ac yn y 12 mis hyd at fis Mawrth y llynedd, roedd yr ymdrech hyd yn oed yn waeth, sef 80 hectar wedi'i phlannu. Mae hyn yn echrydus.
Ni allwn anwybyddu effaith ein gorffennol diwydiannol ar lifogydd. Dangosodd digwyddiadau'r wythnos diwethaf yn Sgiwen sut rydym yn dal i dalu'r pris am ddiwydiant trwm ymhell ar ôl i'r elw a'r swyddi ddiflannu. Gellir dweud yr un peth am yr ofn a deimlir yn ein cymunedau bob tro y bydd un o'n pyllau glo yn symud. Ym mhob rhan o Gymru, mae gennym hen fwyngloddiau, gwaith haearn a gweddillion diwydiannau trwm eraill y mae'n rhaid eu hystyried wrth roi sylw i effaith llifogydd a diogelu ein cymunedau ar gyfer y dyfodol. Ond pwy sy'n edrych ar hyn i gyd mewn ffordd gydgysylltiedig, a phwy sy'n gwrando ar y bobl yr effeithir arnynt gan hyn i gyd?
Mae'r rhain oll yn bethau y gellir eu dadansoddi a'u hystyried ymhellach mewn ymchwiliad cyhoeddus annibynnol. Rhaid inni gael ymchwiliad annibynnol i edrych ar yr hyn a aeth o'i le, i ddeall pwy sy'n atebol ac yn bwysicaf oll, i weld beth sydd angen ei wneud i unioni pethau yn RhCT ac mewn mannau eraill. Gwrthodwch y ddau welliant 'dileu popeth'. Ymunwch â Phlaid Cymru a'r miloedd lawer o bobl yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi galw am ymchwiliad annibynnol i lifogydd y llynedd. Maent yn bendant yn ei haeddu.