Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 2 Chwefror 2021.
Diolch i Suzy Davies am y cwestiwn yna. Mae'r meini prawf ar gyfer ailagor atyniadau awyr agored i ymwelwyr wedi eu nodi yng 'Nghynllun Rheoli Coronafeirws—Lefelau Rhybudd yng Nghymru' Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd rydym ar lefel rhybudd 4, ac mae atyniadau awyr agored wedi'u rhestru fel bod yn ailagor ar lefel rhybudd 2.