Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 2 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 1:42, 2 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

O ystyried hynt Cymru ers degawdau lawer, drwy flynyddoedd Thatcher yn y 1980au, 15 mlynedd o Lywodraeth Lafur yn San Steffan na wnaeth ddiwygio fformiwla Barnett, gan adael Cymru yn waeth ei byd, 11 mlynedd o gyni cyllidol dan arweiniad y Torïaid a'r gronfa ffyniant gyffredin warthus nawr—a byddwn yn cysylltu fy hun â'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud am hynny—a yw'r Prif Weinidog bellach yn derbyn bod degawdau erbyn hyn ers i botensial ailddosbarthu y Deyrnas Unedig, y mae'n cyfeirio ato yn aml, ddod yn agos o gwbl at gael ei wireddu? Ac a yw bellach yn cytuno â mi ei bod hi'n bryd i ni yma yng Nghymru ofalu amdanom ni ein hunain a'n gilydd, gan ddefnyddio'r ysgogiadau economaidd sydd ar gael i wlad annibynnol i ailadeiladu ein heconomi a rhoi terfyn ar dlodi?