Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 2 Chwefror 2021.
Prif Weinidog, er na fyddai neb yn argymell agor atyniadau cyn ei bod hi'n ddiogel i wneud hynny, mae'n rhaid i ni hefyd dderbyn bod y diwydiant wedi cymryd rhagofalon enfawr i wneud eu busnesau mor ddiogel ag y gallan nhw o ran COVID. A'r hyn sydd wir ei angen ar y diwydiant yw llwybr eglur i agor unwaith eto. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi gyhoeddi canllawiau ar gyfer ailagor yr economi ymwelwyr, lle y gall fod yn amodol efallai ar gyfraddau achosion yn parhau i ostwng? Mae angen amserlen arnom ni fel y gall y diwydiant ymbaratoi. Diolch.