Darparu Brechlyn COVID-19

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 2 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:21, 2 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, cafwyd ymdrechion gwych gan bawb sy'n gysylltiedig â chyflawni'r rhaglen frechu yma yng Nghymru ar gyfradd gyflym ac sy'n cyflymu. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae 72 o feddygfeydd teulu yn cymryd rhan yn y rhaglen ar draws ardal gyfan y bwrdd, gan gynnwys yr holl feddygfeydd teulu ym mwrdeistref sirol Caerffili.